Traddodiadau cymunedol yn fanteisiol wrth i Gymru fynd yn annibynnol – Dafydd Iwan

Yn ysgrifennu mewn llyfr newydd a gyhoeddir yn yr Eisteddfod Genedlaethol, honna Dafydd Iwan y bydd traddodiadau cymunedol Cymru yn fantais fawr pan enilla’r wlad ei hannibyniaeth.
Gwneir y sylwadau gan y cerddor ac ymgyrchydd chwedlonol mewn casgliad o erthyglau, o’r enw ‘Dychmygu Cymru Annibynnol’.
Cyhoeddir gan Melin Drafod – grŵp polisi sy’n dweud ei bod yn llunio agenda flaengar ar gyfer Cymru annibynnol – bydd y llyfr ar werth am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis nesaf.
Ymysg y bobl eraill sydd wedi cyfrannu at y cyhoeddiad mae’r sylwebydd rygbi Eddie Butler, cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, yr awdur Mike Parker a’r ymgyrchydd hawliau plant Mercy Shibemba.
Yn ei gyfraniad, meddai Dafydd Iwan:
“[Mae] gennym gryfderau yn ein traddodiadau fel Cymry y mae angen i’w cadw a’u datblygu wrth inni gynllunio’r Gymru Newydd. Ac un o’r cryfderau hynny yw grym y gymuned leol, a’i photensial i greu ac i gynnal diwylliant ac economi gref a chynaliadwy. Mae’r hyn sy’n digwydd yn prynu tafarnau cymunedol ar hyn o bryd yn enghraifft odidog o’r hyn sydd gennyf dan sylw.
“Efallai nad ydym yn llawn werthfawrogi’r ffaith fod y traddodiad gwirfoddol mor gryf yn ein ffordd ni o fyw … edrychwn ar ein traddodiad corau meibion a bandiau pres er enghraifft. Ac y mae llawer canwr sydd wedi cyrraedd uchelfannau’r byd canu proffesiynol yn barod iawn i dalu teyrnged i’r traddodiad eisteddfodol lleol fel lle y gosodwyd y seiliau i’w gyrfa.”
Wrth siarad am y rhesymau pam eu bod wedi rhyddhau’r llyfr, dywedodd Talat Chaudhri, Cadeirydd Melin Drafod:
“Y brif neges yr hoffem ni i bobl gymryd o’r llyfr hwn yw dechrau dychmygu: dychmygu’r hyn y gallwn ni fod. Nawr yw’r amser inni drin a thrafod yr hyn sy’n bosib yn rhydd o hen strwythurau San Steffan, yn rhydd yn y Gymru newydd”.
“Hoffem ddiolch i’r holl gyfranwyr am eu herthyglau, a mawr gobeithio y byddan nhw’n ysbrydoli pobl eraill. Nawr yw’r amser i baratoi am annibyniaeth ac i fynd i’r afael â’r cwestiynau sy’n ein hwynebu fel cenedl oherwydd y gefnogaeth gynyddol iddi.”
Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Confensiwn i lunio glasbrint ar gyfer Cymru annibynnol

Talat Chaudhri
Mae mudiadau o blaid annibyniaeth wedi datgan eu bwriad i sefydlu confensiwn a fydd yn amlinellu sut y gall Cymru ddod yn wladwriaeth rydd.
Dywed y mudiadau bod rhaid i Gymru fod â chynllun ar gyfer ennill annibyniaeth, yn enwedig gan fod disgwyl i’r Alban gynnal refferendwm yn 2023.
Bydd y felin drafod newydd, Melin Drafod, yn tynnu ynghyd clymblaid o sefydliadau i ystyried cwestiynau ymarferol gan gynnwys rhai cyllid, arian cyfred, a pherthnasau rhyngwladol.
Eu nod yw cyflwyno cynllun cychwynnol erbyn diwedd 2022, gyda chyhoeddiad yr adroddiad terfynol erbyn haf 2023.
Dywedodd Cadeirydd Melin Drafod, Talat Chaudhri:
“Mae angen i Gymru fod yn barod i gymryd ei chyfle i ymuno â gweddill cenhedloedd rhydd y byd. Nid oes amser i golli – gyda’r Deyrnas Gyfunol yn prysur ddadfeilio, mae’n rhaid i Gymru fod yn barod am ei dyfodol fel gwlad annibynnol flaengar.
“Mae annibyniaeth i Gymru yn anochel. Rydym yn dod at ein gilydd achos bod angen cynllun arnon ni i ddefnyddio pwerau annibyniaeth i gyd-greu cymdeithas deg, werdd a flaengar. Os ydym yn cael y cynllun yn iawn, gallwn ni fod yn enghraifft i weddill y byd.”
“Allwn ni ddim dibynnu ar eraill i lunio ein tynged i ni: mae angen i ni, dinasyddion cyffredin Cymru, gymryd yr awenau ein hunain.”
Ymysg y grwpiau fydd yn cefnogi’r Confensiwn Annibyniaeth mae Cymdeithas yr Iaith, cyn-aelodau pwyllgor canolog YesCymru, Cefnogwyr Pêl-droed Cymru dros Annibyniaeth, AUOBCymru ac Undod.
Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion
rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora