Polisi Ymddygiad yr Uwchgynhadledd

Bwriedir i Uwchgynhadledd Annibyniaeth Fawr fod yn ofod sy’n caniatáu trafodaeth agored trwy drin eraill â pharch, yn gynhwysol ac yn deg.

Mae Melin Drafod eisiau hybu awyrgylch positif drwy ofyn i bawb:

  • Trin pawb yn gyfartal ac yn barchus
  • Gwrando ar farn pobl eraill ac ymwneud adeiladol â nhw
  • Dangos esiampl
  • Bod yn ymroddedig i helpu ei gilydd ac i fod yn garedig
  • Parchu yr amgylchedd a’r bobl o’ch cwmpas

Credwn fod gan bawb yr hawl i fod mewn amgylchedd parchus, diogel a chroesawgar yn yr Uwchgynhadledd.

Rydym yn ymroddedig i ddarparu profiad cynadledda cynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hil, ethnigrwydd, tarddiad cenedlaethol, dinasyddiaeth, neu iaith, rhywedd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, maint y corff, oedran, crefydd neu ddosbarth economaidd.

Nid oes lle i wahaniaethu, aflonyddu, bwlio ac ymddygiadau nawddoglyd yn yr Uwchgynhadledd, nac mewn unrhyw gyd-destun arall, ac ni fyddant yn cael eu goddef.

Rydym yn mynnu bod mynychwyr yr Uwchgynhadledd yn ymarfer:

  • Dim trais
  • Dim aflonyddu
  • Dim gwahaniaethu
  • Dim bwlio
  • Dim ymddygiad anweddus

Mae’r rhain i gyd yn berthnasol ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac i fannau ffurfiol ac anffurfiol yn yr Uwchgynhadledd ac o’i chwmpas, ac i ffurfiau electronig o gyfathrebu yn ogystal ag ymwneug personol (corfforol, geiriol a di-eiriau).

 

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora