Annibyniaeth i Gymru yn gyfle i atal ‘elyniaeth gynyddol tuag at fudwyr’, medd ffoadur

Yn ysgrifennu mewn llyfr newydd, mae ffoadur o Affrica yn dweud bod annibyniaeth i Gymru yn gyfle i atal yr ‘awyrgylch elyniaethus cynyddol tuag at ymfudwyr’.
Gwneir y dadleuon gan yr ymgyrchydd Joseph Gnagbo mewn casgliad o erthyglau a gyhoeddir gan Melin Drafod – grŵp polisi sy’n dweud ei bod yn llunio agenda flaengar ar gyfer Cymru annibynnol.
Cyhoeddir y llyfr newydd cyn i Fil Mewnfudo Anghyfreithlon newydd Llywodraeth Prydain ddod i rym. Yn ôl y Cyngor Ffoaduriaid, gallai’r ddeddfwriaeth ddadleuol arwain at hyd at 190,000 o fudwyr yn cael eu dal neu’u gorfodi i fyw’n amddifad, ynghyd â 45,000 o blant.
Ymysg y bobl eraill sydd wedi cyfrannu at y gyfrol a lansir yn yr Eisteddfod fis nesaf, mae’r aelod o Fwrdd YesCymru Naomi Hughes, Aelod o’r Senedd Sioned Williams, y bardd Eric Ngalle Charles, yr hanesydd LHDTC+ Norena Shopland, cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price, y cyfreithiwr Emyr Lewis a’r actores Carys Eleri.
Yn ei erthygl yn y llyfr o’r enw ‘(Rhagor o) Ddychmygu Cymru Annibynnol’, dywed Joseph Gnagbo bod: “… cylch dieflig rhwng yr awyrgylch elyniaethus cynyddol tuag at ymfudwyr a thuedd llunwyr polisi i weithredu rheolau mudo llymach. Mae Cymru drwy weithredu ei gweledigaeth o Genedl Noddfa , a gallaf gadarnhau hynny ar sail fy mhrofiad personol, yn parhau i fod yn eithriad yn y rhanbarth Ewropeaidd o ran lletygarwch. Mae’r dewis hwn yn uchelgeisiol ac yn hanesyddol mewn byd lle mae cyni economaidd a phwysau cymdeithasol yn cynyddu’n barhaus ac nid yw Cymru yn eithriad yn hyn o beth. Tlodi plant, heneiddio’r boblogaeth, anghyfartaledd o ran mynediad at wasanaethau ysbyty ac anghyfartaledd rhanbarthol sy’n achosi ymadawiad gwledig, mae’r heriau yn niferus.
Ychwanega Joseph, sydd hefyd yn ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith: “Yn sicr, nad oes angen i Gymru fod yn berffaith, ond mae gwireddu’r weledigaeth o genedl noddfa yn bendant yn mynnu bod y wlad yn lleddfu ei phwysau economaidd a chymdeithasol. I’r nod hwn, nid oes dim yn well nag economi lewyrchus a diwylliant bywiog. Yn hyn o beth mae gan y wlad botensial sylweddol. Iaith fyw i hybu diwylliant a hunaniaeth Gymreig …  ac mae’r timau [chwaraeon] cenedlaethol yn dod â phobl ynghyd ar draws gwahanol grwpiau cymdeithasol gan wella ysbryd cymunedol. Mae Cymry yn adnabyddus am eu cynhesrwydd, eu cyfeillgarwch, a’u hymdeimlad cryf o undod.”
Yn ei herthygl, dywed Naomi Hughes o YesCymru: “Ar ben fy rhestr dymuniadau, fel petai, yw byw mewn cenedl oddefgar, teg lle mae ecwiti cyfleoedd yn arwain cymdeithas. Gwlad lle nad yw lliw, rhyw, hunaniaeth, crefydd neu dim arall yn eich rhwystro nac yn cyfyngu yr hyn y gallwch ei gyflawni neu dylanwadu’r ffordd yr ydych yn cael eich trin. Dylai Cymru fod yn gartref i bawb sy’n dewis ei wneud yn gartref iddynt a hwythau yn perthyn i’r genedl a’r genedl yn perthyn iddyn nhw.
“Hefyd, credaf yn gryf bod dyletswydd ar Gymru annibynnol i fynd i’r afael ag anghyfiawnder economaidd yn ein gwlad. Nid am fyw mewn gwlad ag ardaloedd lle mae dros 40% o’n bobl ifanc yn byw mewn tlodi ydw i, a dyma ble dw i’n gweld uchelgais yn graidd i’n dyfodol. Mae angen creu gwlad gyda chyfleoedd i’n pobol ifainc ar draws ystod o feysydd gwahanol. Dylem werthfawrogi’r gallu a chyfraniadau ein pobol ifainc, boed yn y byd cerddorol, ym myd y celfyddydau, gwyddoniaeth, chwaraeon neu’r byd economaidd. Mae gan gwlad aeddfed a hyderus weledigaethau llydan o’r hyn sy’n cynrychioli llwyddiant ac mae’n rhaid i Gymru beidio â dilyn llwybrau meddwl cul sy’n cyfyngu potensial y wlad.”
Wrth siarad cyn cyhoeddiad y llyfr, meddai Cadeirydd Melin Drafod Talat Chaudhri:
“Mae’r erthyglau yn y llyfr yn dangos ysfa glir am ymgyrch dros annibyniaeth gynhwysol, flaengar. Efallai nad oes enghraifft gliriach o greulondeb undeb y Deyrnas Gyfunol na’i pholisiau mewnfudo presennol. Fel mae Joseph yn dadlau mor rymus, mae cyfle gennym mewn Cymru annibynnol i lunio polisi hollol wahanol a seilir ar y gwaith sydd ar gweill yn barod o greu Cenedl Noddfa.
“Mae’r cyfranwyr i’r gyfrol hon yn tynnu sylw yn llawer manylach at natur y goblygiadau penodol yr undeb, sy’n difrodi nid yn unig Cymru ond pob un trigolyn ohoni, sef y Cymry, yn ddiwylliannol a, dadleuir, yn foesol. Mae llywodraethiant presennol Cymru’n peri anghydraddoldeb cymdeithasol sydd wastad yn dyfnhau ac yn achosi tlodi a dioddefaint, sy’n galluogi hiliaeth a senoffobia, ac sy’n difrodi eiddo amgylcheddol y wlad a’i dyfodol. Ni fedrwn barhau fel hyn. Os cariwn ymlaen fel hyn, ni fydd na Chymru na phobl lwyddiannus, iach ar ôl lle bu hi. Yn lle hynny, yn y gyfrol hon, amlinellwn ddyfodol iach i’r wlad fach hon a’i phobl.”
rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora