Cofrestrwch eich diddordeb
Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein melin drafod sy’n trin a thrafod agenda flaengar ar gyfer Cymru annibynnol, gadewch eich manylion yma er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad.
Cysylltwch â ni
Mae modd cysylltu â ni drwy e-bostio: post@melindrafod.cymru
Am y Felin Drafod
Aelodau’r Pwyllgor Cenedlaethol 2023-24
- Catrin Ashton
- Steve Blundell
- Mererid Boswell
- Talat Chaudhri (Cadeirydd)
- Osian Elias
- Jonathan Evershed
- Llywelyn ap Gwilym
- Colin Nosworthy
- Harriet Protheroe-Soltani
- Dilwyn Ellis Roberts
- Dan Richards
- Bethan Sayed
Beth yw Melin Drafod?
Mae annibyniaeth yn gwestiwn sy’n mynd i’n hwynebu fel cenedl yn ystod y blynyddoedd i ddod. Ni yw’r unig felin drafod sy’n edrych ar y llwybr at annibyniaeth i Gymru, a’r cwestiynau polisi sy’n codi yn sgîl yr annibyniaeth honno.
Sefydlwyd ein melin drafod yn 2021 er mwyn cefnogi, hwyluso a bod yn gyfaill beirniadol i’r mudiad annibyniaeth ar lawr gwlad. Nid yw’r Felin Drafod yn perthyn i’r un blaid wleidyddol: rydym yn gweithredu’n drawsbleidiol ac yn drawsfudiadol ac yn canolbwyntio ar roi sylw manwl i’r cwestiynau sy’n codi yn sgîl y gefnogaeth gynyddol i annibyniaeth.
Sut i hwyluso annibyniaeth flaengar, nid annibyniaeth er lles annibyniaeth yn unig, yw ein blaenoriaeth. Rydym yn trin a thrafod datrysiadau i argyfyngau mawr ein hoes – o newid hinsawdd a lleiafrifoli ieithoedd i warth tlodi a hiliaeth – yma ac o amgylch y byd.
Mae gwir angen paratoi’n drylwyr ar gyfer Cymru annibynnol: bydd y cwestiwn yn wynebu Cymru’n hwyr neu’n hwyrach, ac mae Melin Drafod yma i baratoi’r ffordd.
Ein Cyfansoddiad
Cliciwch yma i ddarllen ein cyfansoddiad (diweddarwyd ar 28/1/23)