Gwir Annibyniaeth

Leanne Wood

Ni ddylai fod yn ddadleuol: y rhai gorau i wneud penderfyniadau ydy’r rhai sydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y penderfyniadau hynny.

Oni bai eich bod yn ystyried meinciau a neuaddau breintiedig San
Steffan a Whitehall fel eich cynefin wrth gwrs.

Wyneba pobl yng Nghymru nifer o broblemau a heriau na ellir eu datrys gan ein Senedd oherwydd ei phwerau cyfyngedig. Ni ellir eu datrys ychwaith gan San Steffan lle na all Cymru fyth bod yn flaenoriaeth.

Heb os, mae dod yn wlad annibynnol yn mynd i rymuso pobl Cymru. Ond tu hwnt i’r pennawd, mae’n bryd i ni fel cenedl ystyried beth fydd ei ystyr mewn gwirionedd.

Unwaith eto, roedd meddwl Raymond Williams ymhell o flaen ei amser gyda’i gysyniad o ‘wir annibyniaeth’. Mae’n agwedd sy’n
mynd lawer pellach na threfniadau cyfansoddiadol cenedlaethol yn unig.

Galwad am ryddid sy’n nodweddu eangfrydedd a’r hyder sydd gan bobl pan rymusir hwy yn wleidyddol ac yn economaidd i benderfynu ar gyfeiriad eu bywydau eu hunain.

Wedi cyfnod llawer rhy hir o wladwriaeth un blaid, mae’n bryd rhoi cyfle i weledigaeth am gydraddoldeb daearyddol ac economaidd a grymuso cymunedol. Bydd y sosialaeth ddatganoledig honno, wedi’i harwain gan y gymuned, yn newid llwyr o’r consensws neo-ryddfrydol ar lefel y Deyrnas Gyfunol.

Fel mudiad cenedlaethol, nid y nod yw dod â rhagor o bwerau i Gaerdydd. Os canolbwyntir weithgaredd economaidd a buddsoddiad cyhoeddus o amgylch traffordd yr M4 yn ne ddwyrain Cymru, byddwn yn efelychu’r wladwriaeth Brydeinig ar raddfa lai, ac yn esgeuluso cymunedau yn ac o amgylch y brifddinas hefyd.

Mae gennym y cyfle gael gwleidyddiaeth wahanol, gan sicrhau fod polisïau yn gweddu anghenion ein cymunedau. Yr hyn sydd ei angen yw annog pobl i ymgysylltu yn y broses o feddwl am sut y gallwn ddatrys ein problemau gyda’n gilydd ac i ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn mentrau lleol sy’n adeiladu gwytnwch eu cymunedau.

Yr hyn sydd ei angen yw rhaglen sy’n cyflwyno set o werthoedd ac
egwyddorion a syniadau polisi i rymuso a rhoi terfyn ar ein dibyniaeth economaidd.

Mae’r broses ar waith yn barod: wrth i ymgyrchwyr lwyddo argyhoeddi mwy a mwy o bobl i gytuno gyda’r egwyddor y dylai penderfyniadau sydd yn effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru.

Mae gwir annibyniaeth Raymond o fewn ein cyrraedd, a’r ddadl ddwys am y cynllun i’n cael i ben y daith ar y gweill.

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora