Confensiwn i lunio glasbrint ar gyfer Cymru annibynnol

Talat Chaudhri
Mae mudiadau o blaid annibyniaeth wedi datgan eu bwriad i sefydlu confensiwn a fydd yn amlinellu sut y gall Cymru ddod yn wladwriaeth rydd.
Dywed y mudiadau bod rhaid i Gymru fod â chynllun ar gyfer ennill annibyniaeth, yn enwedig gan fod disgwyl i’r Alban gynnal refferendwm yn 2023.
Bydd y felin drafod newydd, Melin Drafod, yn tynnu ynghyd clymblaid o sefydliadau i ystyried cwestiynau ymarferol gan gynnwys rhai cyllid, arian cyfred, a pherthnasau rhyngwladol.
Eu nod yw cyflwyno cynllun cychwynnol erbyn diwedd 2022, gyda chyhoeddiad yr adroddiad terfynol erbyn haf 2023.
Dywedodd Cadeirydd Melin Drafod, Talat Chaudhri:
“Mae angen i Gymru fod yn barod i gymryd ei chyfle i ymuno â gweddill cenhedloedd rhydd y byd. Nid oes amser i golli – gyda’r Deyrnas Gyfunol yn prysur ddadfeilio, mae’n rhaid i Gymru fod yn barod am ei dyfodol fel gwlad annibynnol flaengar.
“Mae annibyniaeth i Gymru yn anochel. Rydym yn dod at ein gilydd achos bod angen cynllun arnon ni i ddefnyddio pwerau annibyniaeth i gyd-greu cymdeithas deg, werdd a flaengar. Os ydym yn cael y cynllun yn iawn, gallwn ni fod yn enghraifft i weddill y byd.”
“Allwn ni ddim dibynnu ar eraill i lunio ein tynged i ni: mae angen i ni, dinasyddion cyffredin Cymru, gymryd yr awenau ein hunain.”
Ymysg y grwpiau fydd yn cefnogi’r Confensiwn Annibyniaeth mae Cymdeithas yr Iaith, cyn-aelodau pwyllgor canolog YesCymru, Cefnogwyr Pêl-droed Cymru dros Annibyniaeth, AUOBCymru ac Undod.
rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora