- cynyddu lefelau refeniw treth i gyfartaledd Ewrop, drwy ddiwygiadau treth, dad-droseddoli cyffuriau a threth ar landlordiaid;
- newid y berthynas â gwaith a chynyddu canran y boblogaeth sydd o oedran gweithio, gan gynnwys drwy lacio rheolau mewnfudo;
- lleihau gwariant ar amddiffyn i’r un lefel ag Iwerddon;
- cyflawni arbedion drwy greu un gwasanaeth argyfwng integredig, llai o gynghorau sir a lleihau’n sylweddol canran y boblogaeth a garcherir.
Uwchgynhadledd Fawr Annibyniaeth
Rydyn ni wedi gwerthu’r holl docynnau ar gyfer y digwyddiad hwn – am ragor o wybodaeth cysylltwch â post@melindrafod.cymru.
Uwchgynhadledd annibyniaeth i gael ei chynnal yn Abertawe
Mae mudiadau sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru wedi dod ynghyd er mwyn cynnal uwchgynhadledd yn Abertawe fis nesaf (28 Ionawr 2023).
Dywed y trefnwyr o’r grŵp polisi Melin Drafod y bydd y digwyddiad yn gyfle i ymgyrchwyr dod ynghyd i drafod sut y daw Cymru yn annibynnol.
Daw hyn ar yr un pryd â rhagor o drafodaethau am uno ynys Iwerddon ac arolygon barn diweddar i gyd yn yr Alban yn dangos cefnogaeth y mwyafrif i annibyniaeth.
Mae dyfarniad goruchaf lys y Deyrnas Gyfunol yn gwrthod pleidlais ar annibyniaeth yn codi cwestiynau am sut y bydd pobl Cymru yn cael dweud eu dweud yn ogystal.
Ymysg y siaradwyr yn yr uwchgynhadledd yn Abertawe bydd Arweinydd Arweinydd Plaid Werdd Cymru Anthony Slaughter, Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS, Cyng. Rachel Garrick o Lafur dros Annibyniaeth, Sam Coates ar ran Undod, Gwern Evans o YesCymru, Aelod o’r Senedd Luke Fletcher, Joseph Gnagbo, Mirain Owen o Gymdeithas yr Iaith ac Amanda Burgauer o’r Common Weal.
Dywedodd Talat Chaudhri, Cadeirydd y grŵp polisi Melin Drafod:
“Rydym yn dod at ein gilydd achos bod angen i Gymru drafod ei strategaeth ar gyfer dod yn wlad annibynnol. Nid oes amser i golli – gyda’r Deyrnas Gyfunol yn prysur ddadfeilio, mae’n rhaid i Gymru fod yn barod am ei dyfodol fel gwlad annibynnol flaengar.
“Mae annibyniaeth i Gymru o fewn ein cyrraedd, ond mae angen cynllun arnon ni i ddefnyddio pwerau annibyniaeth i gyd-greu cymdeithas deg, werdd a flaengar. Os ydyn ni’n cael y cynllun yn iawn, gallwn ni fod yn enghraifft i weddill y byd.
“Allwn ni ddim dibynnu ar eraill i lunio ein tynged i ni: mae angen i ni, dinasyddion cyffredin Cymru, gymryd yr awenau ein hunain.”
Cynhelir yr uwchgynhadledd annibyniaeth ar ddydd Sadwrn 28 Ionawr yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio yma.
Dychmygu Cymru Annibynnol
Recordiad o drafodaeth a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 30ain Medi 2022 rhwng Leanne Wood, Eric Ngalle Charles, Mirain Owen, Tessa Marshall ac Elin Hywel.
Annibyn-iaith? y Gymraeg yn y Gymru annibynnol
Recordiad o drafodaeth a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’r Athro Emyr Lewis, Llinos Anwyl (Cymdeithas), Elfed Williams (YesCymru), Menna Machreth, Talat Chaudhri (Melin Drafod) a Alun Davies AS (Llafur Cymru).
Mudiadau annibyniaeth yn galw am yr hawl i Gymru gynnal refferendwm
Mae mudiadau sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth, gan gynnwys y Blaid Werdd a Phlaid Cymru, wedi uno i alw am yr hawl i Senedd Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
Mewn llythyr agored at y Comisiwn Cyfansoddiadol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, mae mudiadau a phleidiau gan gynnwys YesCymru, Cymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru, Plaid Werdd Cymru, Undod a Llafur dros Annibyniaeth yn galw am yr hawl ddilyffethair i Senedd Cymru gynnal pleidlais gyhoeddus ar y cwestiwn.
[Darllenwch y llythyr llawn yma]
Dywed y llythyr: “Ysgrifennwn ar y cyd er mwyn tanlinellu un egwyddor benodol sydd gennym yn gyffredin: hawl sylfaenol pobl Cymru i benderfynu eu statws cyfansoddiadol eu hunain.
“Yn nhermau gwaith eich Comisiwn, galwn felly am yr hawl i Gymru, drwy ei Senedd etholedig, benderfynu a ddylai fod yn wlad annibynnol ai peidio, a hynny heb ymyrraeth gan San Steffan.”
Mae’r mudiadau yn rhybuddio bod angen proses eglur oherwydd yr ansicrwydd a welir mewn gwledydd fel Catalwnia a’r Alban. Parha’r llythyr:
“Dylai fod proses a mecanwaith eglur a fydd yn caniatáu i Gymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth. Dylai amseriad a manylion cysylltiedig y bleidlais honno fod yn faterion i bobl Cymru a’u Senedd benderfynu arnyn nhw, nid San Steffan.”
Cydlynwyd y llythyr gan Melin Drafod a dywedodd Talat Chaudhri, Cadeirydd y mudiad:
“Mae angen i Gomisiwn Llywodraeth Cymru ddangos ei fod yn ystyried annibyniaeth o ddifrif. Mae angen i’r aelodau osod allan cynllun ymarferol i alluogi pobl Cymru i wneud y dewis eu hunain. Ar hyn o bryd, hyd yn oed i ofyn y cwestiwn, mae ar fympwy y llywodraeth yn Llundain. Mae angen i hynny newid fan lleiaf.”
Mae ymgynghoriad cyhoeddus mae’r Comisiwn yn ei gynnal yn cau ar 31ain Awst.