Uwchgynhadledd annibyniaeth i gael ei chynnal yn Abertawe

Talat Chaudhri

Mae mudiadau sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru wedi dod ynghyd er mwyn cynnal uwchgynhadledd yn Abertawe fis nesaf (28 Ionawr 2023). 

Dywed y trefnwyr o’r grŵp polisi Melin Drafod y bydd y digwyddiad yn gyfle i ymgyrchwyr dod ynghyd i drafod sut y daw Cymru yn annibynnol.

Daw hyn ar yr un pryd â rhagor o drafodaethau am uno ynys Iwerddon ac arolygon barn diweddar i gyd yn yr Alban yn dangos cefnogaeth y mwyafrif i annibyniaeth. 

Mae dyfarniad goruchaf lys y Deyrnas Gyfunol yn gwrthod pleidlais ar annibyniaeth yn codi cwestiynau am sut y bydd pobl Cymru yn cael dweud eu dweud yn ogystal. 

Ymysg y siaradwyr yn yr uwchgynhadledd yn Abertawe bydd Arweinydd Arweinydd Plaid Werdd Cymru Anthony Slaughter, Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS, Cyng. Rachel Garrick o Lafur dros Annibyniaeth, Sam Coates ar ran Undod, Gwern Evans o YesCymru, Aelod o’r Senedd Luke Fletcher, Joseph Gnagbo, Mirain Owen o Gymdeithas yr Iaith ac Amanda Burgauer o’r Common Weal.

Dywedodd Talat Chaudhri, Cadeirydd y grŵp polisi Melin Drafod:

​“Rydym yn dod at ein gilydd achos bod angen i Gymru drafod ei strategaeth ar gyfer dod yn wlad annibynnol. Nid oes amser i golli – gyda’r Deyrnas Gyfunol yn prysur ddadfeilio, mae’n rhaid i Gymru fod yn barod am ei dyfodol fel gwlad annibynnol flaengar.

“Mae annibyniaeth i Gymru o fewn ein cyrraedd, ond mae angen cynllun arnon ni i ddefnyddio pwerau annibyniaeth i gyd-greu cymdeithas deg, werdd a flaengar. Os ydyn ni’n cael y cynllun yn iawn, gallwn ni fod yn enghraifft i weddill y byd.

“Allwn ni ddim dibynnu ar eraill i lunio ein tynged i ni: mae angen i ni, dinasyddion cyffredin Cymru, gymryd yr awenau ein hunain.”

Cynhelir yr uwchgynhadledd annibyniaeth ar ddydd Sadwrn 28 Ionawr yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio yma.

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora