Ein Manylion Cyswllt
Cyfeiriad e-bost: post@melindrafod.cymru
Gwefan: melindrafod.cymru
Dyddiad a gwblhawyd y polisi preifatrwydd: 4/7/21
Y math o wybodaeth personol yr ydym yn ei chagslu
Ar hyn o bryd, rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol:
- Enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost
Sut rydym yn dod o hyd i’r wybodaeth a pham ei bod gennym
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bresennol rydym ei phrosesu wedi ei darparu’n uniongyrchol gennych am un o’r rhesymol canlynol:
- gwybodaeth gasglwyd drwy ein ffurflen gofrestru diddordeb er mwyn rhoi gwybod i chi am ein digwyddiadau a’n cyfarfodydd
Rydym yn derbyn gwybodaeth yn anuniongyrchol o’r ffynonellau hyn yn y senarios canlynol:
- ffurflen cofrestru o ddigwyddiadau rydym wedi eu cynnal
Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni er mwyn:
- rhoi gwybod i chi am ein digwyddiadau a’n cyfarfodydd
Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda sefydliadau eraill heb eich cydsyniad.
O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
- Eich caniatâd.
Mae modd i chi dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch chi wneud hyn drwy gysylltu â ni ar: post@melindrafod.cymru
Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol drwy ein ffurflen gofrestru diddordeb a ffurflenni cofrestru ar gyfer digwyddiadau. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn rhoi gwybod i chi am ein cyfarfodydd a’n digwyddiadau ac ar sail eich caniatâd/diddordeb yn ein gwaith.
Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy e-bostio: post@melindrafod.cymru
Rydym yn storio eich gwybodaeth ar fasdata ar-lein a byddwn ni’n ei chadw am gyfnod o hyd at 5 mlynedd ac wedyn ei ddileu o’n basdata ar-lein.
Eich hawliau diogelu data
O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:
Eich hawl mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol rydych chi’n meddwl sy’n anghywir.
Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi’n meddwl sy’n anghyflawn.
Eich hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn inni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch inni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.
Nid yw’n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, mae gennym un mis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni ar post@melindrafod.cymru os ydych chi’n dymuno gwneud cais.
Sut i gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni drwy e-bostio: post@melindrafod.cymru.
Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi’n anhapus â sut rydyn ni wedi defnyddio’ch data.
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd
Gwybodaeth Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk