Ydy Cymru’n barod am hyn?

Prydain yn gadael Cymru?

Fe addawodd Plaid Cymru na fyddai refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor presennol Llywodraeth Cymru, ond pa mor briodol oedd hynny? Gallem ddeall y cyd destun gwleidyddol achosodd i Blaid Cymru gymryd y safbwynt yna yn ystod yr ymgyrch, ond nid yw’r cyd destun yn sefydlog, mae llawer yn digwydd yng ngweddill Prydain a’r Byd allai achosi i bethaun newid yn sydyn iawn.

Cynhadledd Belfast

Yng ngogledd Iwerddon ddiwedd Mehefin fe gynhaliodd yr ail blaid weriniaethol yn y rhanbarth  – yr SDLP, plaid sydd a chysylltiadau agos gyda’r Blaid Lafur Brydeinig, gynhadledd i drafod dyfodol yr ynysoedd o dan y pennawd “Preparing for Change”. Y pryder mwyaf yn y gynhadledd honno oedd y gallai llywodraeth Reform ym Mhrydain, pe bai’n digwydd, orfodi refferendwm brys ar ddyfodol de a gogledd Iwerddon, mae gan Lywodraeth Prydain yr hawl i ofyn am un ar unrhyw adeg, ac mae perygl na fyddai cynlluniau gan weriniaeth Iwerddon i ymdopi gydag uno’r ynys pe bai hyn yn digwydd yn sydyn.

Ymhlith y siaradwyr roedd neb llai na chyn Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, ac er ei fod yn unoliaethwr, fe adroddwyd ei fod ef hefyd yn gweld yn glir y perygl o sefyllfa ble byddai Reform yn gallu dod i rym, a hynny’n arwain at newidiadau yn yr Alban ac Iwerddon fyddai’n gadael Cymru mewn sefyllfa annioddefol o fod yn “bloryn blaengar” ar weddillion Prydain. Byddai hynny’n sefyllfa ble byddai hyd yn oed y bobl sy’n ffafrio’r undeb yn gorfod ystyried torri i ffwrdd.

Rhaid i Gymru Baratoi

Y casgliad amlwg felly yw bod rhaid paratoi, nid yn unig ar gyfer annibyniaeth ei hun, ond hefyd ar gyfer ymgyrch a allai ddigwydd bron yn ddigymell o safbwynt y gwledydd Celtaidd. O ran cyd destun ymgyrchu mae gan Ogledd Iwerddon, fel Cymru, y broblem o ffigyrau swyddogol gwallus sy’n awgrymu na all Gogledd Iwerddon “fforddio” gadael Prydain, ffigyrau, os na fyddent yn cael eu cywiro, a allai gael eu defnyddio mewn ffordd ddinistriol mewn ymgyrch refferendwm. Mae Cymru mewn sefyllfa debyg wrth gwrs, mae Swyddfa Cymru wedi paratoi ffigyrau cwbl annheg sy’n awgrymu cost uchel i annibyniaeth Cymru, felly mae angen gofyn ydy Llywodraeth Cymru am wneud yr ymchwil priodol ar wir gost y trefniant presennol, ar beth sy’n deg i Gymru? A fyddai’r comsiwn cyfansoddiadol efallai’n gallu helpu i ddarparu data sy’n rhoi ateb swyddogol mwy meddylgar a chywir ac adeiladol?

Y gwir yw na fyddwn ni ddim yn penderfynu ein tynged ar ein pen ein hunain, ac mae’n bosib iawn y bydd Prydain Reformaidd yn gofyn cwestiynau i ni cyn ein bod yn barod i’w hateb. Os na allwn gymryd y cyfle hwnnw gallem golli popeth rydym yn credu ynddo, gan fethu dewis annibyniaeth ein hunain. Os yw Prydain yn gadael, a fyddem yn wlad annibynnol ond caeth tebyg i Belarus, neu gwaeth fyth yn ymdoddi i wladwriaeth orthrymus Brydeinig? Dyma allai ddigwydd os nad ydyn ni’n cymryd cyfrifoldeb, ac yn paratoi am ymgyrch dros annibyniaeth. Pryd fydd Cymru’n barod am y newid yma?

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora