Cysylltwch â ni
Gallwch chi gysylltu â ni drwy e-bostio: post@melindrafod.cymru
Os ydych chi eisiau ymuno â’n rhestr e-bost, gallwch chi lenwi’r ffurflen tanysgrifio.
Am y Felin Drafod
Aelodau’r Pwyllgor Cenedlaethol 2024-25
- Steve Blundell
- Mererid Boswell
- Talat Chaudhri
- Michael Chown
- Osian Elias
- Jonathan Evershed
- Joseff Gnagbo
- Einion Gruffudd
- Delyth Ifan
- Colin Nosworthy
Beth yw Melin Drafod?
Mae annibyniaeth yn gwestiwn sy’n mynd i’n hwynebu fel cenedl yn ystod y blynyddoedd i ddod. Ni yw’r unig felin drafod sy’n edrych ar y llwybr at annibyniaeth i Gymru, a’r cwestiynau polisi sy’n codi yn sgîl yr annibyniaeth honno.
Sefydlwyd ein melin drafod yn 2021 er mwyn cefnogi, hwyluso a bod yn gyfaill beirniadol i’r mudiad annibyniaeth ar lawr gwlad. Nid yw’r Felin Drafod yn perthyn i’r un blaid wleidyddol: rydym yn gweithredu’n drawsbleidiol ac yn drawsfudiadol ac yn canolbwyntio ar roi sylw manwl i’r cwestiynau sy’n codi yn sgîl y gefnogaeth gynyddol i annibyniaeth.
Sut i hwyluso annibyniaeth flaengar, nid annibyniaeth er lles annibyniaeth yn unig, yw ein blaenoriaeth. Rydym yn trin a thrafod datrysiadau i argyfyngau mawr ein hoes – o newid hinsawdd a lleiafrifoli ieithoedd i warth tlodi a hiliaeth – yma ac o amgylch y byd.
Mae gwir angen paratoi’n drylwyr ar gyfer Cymru annibynnol: bydd y cwestiwn yn wynebu Cymru’n hwyr neu’n hwyrach, ac mae Melin Drafod yma i baratoi’r ffordd.
Ein Cyfansoddiad
Cliciwch yma i ddarllen ein cyfansoddiad (diweddarwyd ar 28/1/23)
Cliciwch yma i ddarllen ein Polisi Urddas a Pharch
Ariannu Melin Drafod
Daw unig arian Melin Drafod o’i haelodau – gallwch chi gyfrannu neu ymaelodi yma.