Mudiadau annibyniaeth yn galw am yr hawl i Gymru gynnal refferendwm

Talat Chaudhri

Mae mudiadau sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth, gan gynnwys y Blaid Werdd a Phlaid Cymru, wedi uno i alw am yr hawl i Senedd Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Mewn llythyr agored at y Comisiwn Cyfansoddiadol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, mae mudiadau a phleidiau gan gynnwys YesCymru, Cymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru, Plaid Werdd Cymru, Undod a Llafur dros Annibyniaeth yn galw am yr hawl ddilyffethair i Senedd Cymru gynnal pleidlais gyhoeddus ar y cwestiwn.

[Darllenwch y llythyr llawn yma]

Dywed y llythyr: “Ysgrifennwn ar y cyd er mwyn tanlinellu un egwyddor benodol sydd gennym yn gyffredin: hawl sylfaenol pobl Cymru i benderfynu eu statws cyfansoddiadol eu hunain.

“Yn nhermau gwaith eich Comisiwn, galwn felly am yr hawl i Gymru, drwy ei Senedd etholedig, benderfynu a ddylai fod yn wlad annibynnol ai peidio, a hynny heb ymyrraeth gan San Steffan.”

Mae’r mudiadau yn rhybuddio bod angen proses eglur oherwydd yr ansicrwydd a welir mewn gwledydd fel Catalwnia a’r Alban. Parha’r llythyr:

“Dylai fod proses a mecanwaith eglur a fydd yn caniatáu i Gymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth. Dylai amseriad a manylion cysylltiedig y bleidlais honno fod yn faterion i bobl Cymru a’u Senedd benderfynu arnyn nhw, nid San Steffan.”

Cydlynwyd y llythyr gan Melin Drafod a dywedodd Talat Chaudhri, Cadeirydd y mudiad:

“Mae angen i Gomisiwn Llywodraeth Cymru ddangos ei fod yn ystyried annibyniaeth o ddifrif. Mae angen i’r aelodau osod allan cynllun ymarferol i alluogi pobl Cymru i wneud y dewis eu hunain. Ar hyn o bryd, hyd yn oed i ofyn y cwestiwn, mae ar fympwy y llywodraeth yn Llundain. Mae angen i hynny newid fan lleiaf.” 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus mae’r Comisiwn yn ei gynnal yn cau ar 31ain Awst.

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora