
Prydain yn gadael Cymru?
Fe addawodd Plaid Cymru na fyddai refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor presennol Llywodraeth Cymru, ond pa mor briodol oedd hynny? Gallem ddeall y cyd destun gwleidyddol achosodd i Blaid Cymru gymryd y safbwynt yna yn ystod yr ymgyrch, ond nid yw’r cyd destun yn sefydlog, mae llawer yn digwydd yng ngweddill Prydain a’r Byd allai achosi i bethaun newid yn sydyn iawn.
Cynhadledd Belfast
Yng ngogledd Iwerddon ddiwedd Mehefin fe gynhaliodd yr ail blaid weriniaethol yn y rhanbarth – yr SDLP, plaid sydd a chysylltiadau agos gyda’r Blaid Lafur Brydeinig, gynhadledd i drafod dyfodol yr ynysoedd o dan y pennawd “Preparing for Change”. Y pryder mwyaf yn y gynhadledd honno oedd y gallai llywodraeth Reform ym Mhrydain, pe bai’n digwydd, orfodi refferendwm brys ar ddyfodol de a gogledd Iwerddon, mae gan Lywodraeth Prydain yr hawl i ofyn am un ar unrhyw adeg, ac mae perygl na fyddai cynlluniau gan weriniaeth Iwerddon i ymdopi gydag uno’r ynys pe bai hyn yn digwydd yn sydyn.
Ymhlith y siaradwyr roedd neb llai na chyn Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, ac er ei fod yn unoliaethwr, fe adroddwyd ei fod ef hefyd yn gweld yn glir y perygl o sefyllfa ble byddai Reform yn gallu dod i rym, a hynny’n arwain at newidiadau yn yr Alban ac Iwerddon fyddai’n gadael Cymru mewn sefyllfa annioddefol o fod yn “bloryn blaengar” ar weddillion Prydain. Byddai hynny’n sefyllfa ble byddai hyd yn oed y bobl sy’n ffafrio’r undeb yn gorfod ystyried torri i ffwrdd.
Rhaid i Gymru Baratoi
Y casgliad amlwg felly yw bod rhaid paratoi, nid yn unig ar gyfer annibyniaeth ei hun, ond hefyd ar gyfer ymgyrch a allai ddigwydd bron yn ddigymell o safbwynt y gwledydd Celtaidd. O ran cyd destun ymgyrchu mae gan Ogledd Iwerddon, fel Cymru, y broblem o ffigyrau swyddogol gwallus sy’n awgrymu na all Gogledd Iwerddon “fforddio” gadael Prydain, ffigyrau, os na fyddent yn cael eu cywiro, a allai gael eu defnyddio mewn ffordd ddinistriol mewn ymgyrch refferendwm. Mae Cymru mewn sefyllfa debyg wrth gwrs, mae Swyddfa Cymru wedi paratoi ffigyrau cwbl annheg sy’n awgrymu cost uchel i annibyniaeth Cymru, felly mae angen gofyn ydy Llywodraeth Cymru am wneud yr ymchwil priodol ar wir gost y trefniant presennol, ar beth sy’n deg i Gymru? A fyddai’r comsiwn cyfansoddiadol efallai’n gallu helpu i ddarparu data sy’n rhoi ateb swyddogol mwy meddylgar a chywir ac adeiladol?
Y gwir yw na fyddwn ni ddim yn penderfynu ein tynged ar ein pen ein hunain, ac mae’n bosib iawn y bydd Prydain Reformaidd yn gofyn cwestiynau i ni cyn ein bod yn barod i’w hateb. Os na allwn gymryd y cyfle hwnnw gallem golli popeth rydym yn credu ynddo, gan fethu dewis annibyniaeth ein hunain. Os yw Prydain yn gadael, a fyddem yn wlad annibynnol ond caeth tebyg i Belarus, neu gwaeth fyth yn ymdoddi i wladwriaeth orthrymus Brydeinig? Dyma allai ddigwydd os nad ydyn ni’n cymryd cyfrifoldeb, ac yn paratoi am ymgyrch dros annibyniaeth. Pryd fydd Cymru’n barod am y newid yma?
