
Mae arwyddion clir o newid drwy’r byd, ac yng Nghymru mae’r newid hwn yn gyfle i gymryd camau tuag at annibyniaeth. Gallwn ddisgwyl heriau gwahanol i’r arfer yn ystod yr ymgyrch etholiadol sydd yn agosáu’n sydyn. A fydd annibyniaeth i Gymru yn bwnc fydd yn cael ei osgoi, neu a fydd cyfle i ddatblygu’r drafodaeth?
Annibyniaeth flaengar ydy prif ffocws Melin Drafod – ffocws sy’n rhoi cyfle i annog trafodaeth adeiladol a chadarnhaol am y dyfodol. Mae digon o broblemau yn y byd, a digon o bobl yn cwyno amdanynt, ond gallwn hefyd weld gwerth mewn bod yn bositif, cychwyn sgyrsiau cyffrous am y posibiliadau sydd gennym, am ffyrdd o symud ymlaen a gwella ein gwlad, ein cymdeithas, ein byd, syniadau y gallwn eu cymryd fwy o ddifri.
Mae dwy blaid wleidyddol o bwys yng Nghymru eisoes yn dweud eu bod yn gefnogol i annibyniaeth, ac mae digon o bobl Cymru sydd yn chwilfrydig, felly amdani!
