Annibyniaeth – y Tu Allan i’r Bocs

Ofn annibyniaeth? Rydym mewn ymgyrch etholiadol ble mae’n ymddangos bod cefnogwyr annibyniaeth Cymru yn osgoi’r pwnc, tra bod Unoliaethwyr yn ceisio hybu teimladau o ofn tuag at annibyniaeth. Mae’r Unoliaethwyr yn defnyddio math o “Project Fear”, tacteg bwerus sy’n atal meddwl hirdymor ystyrlon am y newid sydd ei angen i wella ein gwlad. Mae’n anodd gwrthsefyll diwylliant diog y grymoedd ceidwadol sydd mor benderfynol o gadw popeth fel y maent a’n hatal rhag meddwl “y tu allan i’r bocs”.

Un o ddulliau’r sefydliad unoliaethol o’n cadw mewn bocs ydy cyflwyno adroddiadau fel yr un yma gan Swyddfa Cymru sy’n fframio’r drafodaeth drwy gymharu, mewn ffordd anghytbwys, incwm a gesglir yng Nghymru yn unig yn erbyn gwariant a wariwyd ar ein rhan ledled y DU a thu hwnt, heb fod gennym fawr ddim rheolaeth drosto. Bydd y gwleidyddion cul hyn yn dehongli hyn yn ddifeddwl fel diffyg o tua £7,000 i bob un ohonom, ond dyma agwedd goruchwylwyr di-hid nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn ystyried o ddifri beth sy’n bwysig a beth sydd ddim yn bwysig, beth sy’n bosibl a beth sydd ddim yn bosib, yn ein byd o newid parhaus.

Mae annibyniaeth yn syniad llawer mwy na hynny, yn syniad sydd â chyd-destun byd-eang lle mae anghydbwyseddau cymdeithasol cyfoeth, grym, a’r amgylchedd bellach yn anghynaladwy. Mae’n rhaid i’r byd, gan gynnwys y DU, newid. Gall hyn ddod â chyfleoedd a chanlyniadau gwell i Gymru, os gallwn ni feddwl a gweithio’n ddigon caled.

Allwn ni ddim fforddio osgoi’r pwnc hwn, waeth beth yw blaenoriaethau tymor byr ein gwleidyddion, ac er nad oes cynlluniau manwl ar gyfer annibyniaeth yn eu lle ar hyn o bryd. Mae’n drafodaeth allweddol wrth i ni ystyried cyfeiriad posibl ein gwlad. Mae rhai polisïau wedi eu hamlinellu isod, mewn ymgais i ddeall y darlun ehangach ac ymateb i rai o’r heriau sy’n ein hwynebu.

Polisïau tymor byr ar gyfer Cymru Annibynnol

  • Iawndal am dderbyn mewnfudwyr sydd wedi ymddeol: Mae’r gost o dalu pensiynau a chostau ysbyty ar gyfer mewnfudwyr hŷn sydd wedi ymddeol yn sylweddol. Mae pensiynau yn allforiadwy, ac mae gwledydd annibynnol e.e. Iwerddon a Sbaen, yn delio â chostau gofal iechyd i fewnfudwyr o’r DU trwy drefnu taliadau “S1” gyda Llywodraeth y DU. Mae hyn yn gymhleth, ond o ystyried ein sefyllfa ddemograffig, byddai Cymru annibynnol yn disgwyl cyfraniad sylweddol tuag at hyn.
  • Gwella effeithlonrwydd cyllidol lleoliad swyddogaethau’r llywodraeth yng Nghymru: Mae talu gweision sifil sydd wedi eu lleoli yn Lloegr i’n llywodraethu nid yn unig yn arwain at benderfyniadau llai ffafriol i Gymru, ond hefyd yn colli treth incwm o’r cyflogau a dalwyd. Mae hyn yn berthnasol i lawer o swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni “ar ran Cymru”, gan gynnwys agweddau ar amddiffyn.
  • Polisïau sy’n ffafrio busnesau lleol: Byddai’r sector breifat hefyd yn fwy effeithlon yn gyllidol os gellir bod mwy o weithgarwch masnachol yn cael ei gynnal gan gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac sy’n talu trethi yn lleol. Fodd bynnag, mae polisïau’r DU yn ei gwneud hi’n anodd annog hyn, ac o ganlyniad, mae busnesau sydd â’u pencadlys y tu allan i Gymru yn parhau i ddominyddu ein heconomi heb gyfrannu’n digon at ein sylfaen dreth.
  • Telerau masnach: Nid yw fframweithiau’r DU yn caniatáu i Gymru dderbyn incwm priodol ar gyfer trosglwyddiadau ynni e.e. yn y ffordd y mae Iwerddon a Ffrainc yn ei wneud ar gyfer trydan. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ddŵr, ac adnoddau eraill gan gynnwys y tir sy’n eiddo i Ystâd y Goron. Nid ydym yn gallu negodi drosom ein hunain, felly mae ein telerau masnach yn ofnadwy

Polisïau tymor hirach ar gyfer Cymru Annibynnol

  • Benthyg ar gyfer buddsoddiad: Mae trefniant presennol y DU wedi tanseilio buddsoddiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru ers degawdau, gan gynnwys buddsoddiadau mewn ymchwil a datblygu, a phrin iawn yw’r cyfle i  Lywodraeth Cymru fenthyca yn effeithlon ei hun i gefnogi buddsoddi. Mae hyn wedi cyfyngu’r opsiynau i ddatblygu seilwaith allweddol a allai annog twf fyddai’n lles i’n mantolenau cyllid a masnach. Mae’r diffyg buddsoddiad cyhoeddus yn ei dro yn tanseilio buddsoddiad preifat. Mae gan wlad annibynnol lawer mwy o opsiynau ar gyfer benthyca ar gyfer buddsoddiad, yn enwedig os oes ganddi ei harian ei hun.
  • Datblygu economaidd: Ychydig iawn o’r mecanweithiau economaidd sydd o fewn cyrraedd llywodraeth Cymru ar hyn o bryd fyddai’n gallu dylanwadu ar ddatblygiad ein heconomi. Er enghraifft, mae cyfyngiadau ar y cymorthdaliadau gallwn eu cynnig gan bod rhaid ystyried a fyddem yn rhoi mantais annheg i’n cwmnïau yn erbyn cystadleuaeth o fannau eraill yn y DU, mae hyn yn cyfyngu ar opsiynau Cymru i ganolbwyntio ar ddatblygu sectorau sy’n bwysig i ni. Rydym yn cael ein “gwahardd rhag ennill” i bob pwrpas. Mae gan wledydd anibynnol lawer mwy o opsiynnau realistig ar gyfer dylanwadu ar ddatblygiad eu heconomiau.

Mae’r drafodaeth yn parhau

Gobeithio bod yr uchod yn rhoi cipolwg ar yr hyn a ddylai fod yn bosibl yn y dyfodol, rhai uchafbwyntiau o’r hyn y dylem allu ei drafod er budd tegwch i’n gwlad, a sut i baratoi ar gyfer annibyniaeth. Mae llawer mwy, wrth gwrs, i’w wneud, a dylem fod yn ymwybodol nad yw’r materion hyn yn cael eu datrys yn awtomatig wrth i wlad ddod yn annibynnol, ond o leiaf mae gan wledydd annibynnol gyfle i fynd i’r afael â’r materion hyn. Os yw hyn yn peri peth ofn, cofiwch fod gan Gymru fanteision hefyd: tra bydd Lloegr a’r rhan fwyaf o Ewrop yn ymgymryd â phroblemau strategol diogelwch ynni, dŵr a bwyd, byddai Cymru annibynnol mewn sefyllfa gymharol gryf gan fod ganddi gyflenwad mewnol sylweddol o’r holl adnoddau hyn, felly byddai’r risgiau hynny’n is i ni.

Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw cynllunio da, data da am sut mae ein heconomi yn gweithio, a’r ewyllys wleidyddol i feddwl drosom ein hunain. Mae angen i ni allu gwneud penderfyniadau effeithlon sy’n addas i ni, yn hytrach na derbyn penderfyniadau a wneir ar ein rhan gan eraill. Bydd angen i’n gwleidyddion newydd fod â hyder a phenderfyniad i chwarae rhan mewn byd sy’n newid. Bydd modd gwneud rhai gwelliannau yn y cyfamser, fel datblygiad economi sylfaenol, ond yn y pen draw bydd rhaid i bawb feddwl yn fwy agored am annibyniaeth.

Ymunwch a ni i fod yn rhan o’r drafodaeth

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora