Bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull ym Merthyr Tudful fis nesaf i drafod yr heriau cynyddol sy’n wynebu democratiaeth o amgylch y byd.
Trefnir yr uwchgynhadledd gan y grŵp polisi Melin Drafod, er mwyn trin a thrafod pynciau megis y cynnydd mewn camwybodaeth a thwf yr adain dde eithafol.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad a gynhelir yn Theatr Soar ym Merthyr Tudful fydd yr awdures Grace Blakeley, Aelod Senedd Llafur Mick Antoniw, yr awdur a gohebydd Will Hayward, Aelod Senedd Plaid Cymru Heledd Fychan a chyn-AS Cwm Cynon, Beth Winter.
Meddai Talat Chaudhri, Cadeirydd y grŵp polisi Melin Drafod:
“O gamwybodaeth gynyddol ar-lein i lygredd gwleidyddol a thwf yr adain dde eithafol, mae gwleidyddiaeth gynrychiadol yn wynebu heriau digynsail yn ein cenedl ni ynghyd â sawl cenedl arall o amgylch y byd. Bydd yr uwchgynhadledd yn gyfle i drafod ac i lunio atebion i’r heriau hynny ac i ail-ddychmygu democratiaeth ar gyfer y Gymru annibynnol i ddod.
“Mewn nifer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt, nid oes amheuaeth bod democratiaeth fel yr ydym yn ei hadnabod hi dan fygythiad yn fwy nag ers cenedlaethau. Mae pob cam, boed yn fach neu’n fawr, yn gallu gwneud gwahanaeth. Mae angen i’n pleidiau gwleidyddol a’n cymdeithas sifil fod yn barod i wynebu’r bygythiad enfawr hwn.
“Dyma’r amser i ddyfnhau a chryfhau strwythurau democrataidd ein gwlad, rhai mewnol y pleidiau ynghyd â’n cyfundrefnau etholiadol. Ond, yn ogystal, mae’n gwbl hanfodol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd incwm difrifol yng Nghymru ac mewn llefydd eraill yn y byd.”
Cynhelir yr uwchgynhadledd ar ddemocratiaeth ddydd Sadwrn 8 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Soar ym Merthyr Tudful. Cewch ragor o fanylion a chyfarwyddiadau i archebu tocynnau drwy fynd i http://melindrafod.cymru/siop .