MIRAIN OWEN
Breuddwydiaf am newid. Newid angenrheidiol er mwyn gwneud Cymru yn wlad, yn wlad hapus. Yn wlad rydd, yn lle i feddyliau ifanc gael datblygu a gwella eu hunain, lle gall pobl o bob oed gael byw yn hapus a lle y cynorthwya cymunedau drwy gefnogi y mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Gwlad economaidd lewyrchus drwy gydweithio a’r adnoddau naturiol. Yn wlad, lle mae pobl yn ymfalchïo i fod yn Gymry. Dyna all Cymru fod.
Rhannaf weledigaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer Cymru, sef Cymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg.
Golyga “Cymru Rydd” fwy nag annibyniaeth. Golyga fyw mewn stad o ryddid. Rhyddid ar bob lefel, i fodoli yn y ffordd sydd ei heisiau arnom ni. Nid cystadleuaeth ydyw, nid ras i weld pa wlad yw’r orau, ond cyfle i fanteisio ar yr hyn sy’n iawn i Gymru, yr hyn all rymuso pobl Cymru, a’r hyn all alluogi cymunedau goddefol lle mae lle i bawb, ac yn fwy na hynny, lle rhoddir croeso i bawb. Ond wrth gwrs, ni ellir sicrhau hyn heb seiliau cadarn gwladwriaeth annibynnol Cymru, lle gwneir penderfyniadau am Gymru ac am y Cymry yng Nghymru gan Gymry. Lle nad anfonir milwyr Cymreig i ladd neu farw mewn rhyfeloedd ymerodraethol dibwynt fyth eto.
Yr ail weledigaeth yw Cymru Werdd. Cymru all sefyll ar ei dwy droed ei hun drwy gydweithio gyda natur, drwy ddefnyddio dulliau creu a harneisio egni naturiol y ddaear, yr haul, y môr a’r gwynt. Gwlad lle gall pobl wneud bywoliaeth drwy fyw gyda’r ddaear a nid arni. Gwlad lle mae modd cynnal bywyd gwyllt a byd natur sy’n cyd-fynd gydag anghenion cyfoes dynoliaeth. Gwlad o ailgylchu, cynaladwyedd, lle y gallwn ymfalchïo yn ein cymdogaethau a’n cynefinoedd unigryw.
Craidd ein gwahaniaeth yw ein hiaith. Hoffwn fyw mewn gwlad lle gall y Gymraeg fyw a ffynnu. Nid fel ystadegau ar siaradwyr mewn adroddiadau meithion, ond iaith fyw ein cymdeithas. Gwlad sy’n galluogi pob person mewn addysg Gymraeg i gipio’r iaith, ei chadw hi ac i ymfalchïo ynddi. Gwlad sydd yn darparu ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg i bob plentyn. Gwlad lle mae gwersi Cymraeg am ddim i bawb. Cred Cymdeithas yr Iaith yn uchelgais ‘Mwy na Miliwn’. Yr uchelgais obeithiol a chadarnhaol bod angen miliwn o siaradwyr Cymraeg fel isafswm. Credaf fod Cymru llwyr Gymraeg a Chymreig yn bosib. Mae’r Gymraeg yn eiddo i bawb. Perchnogwn hi a’i rhannu.
Nid iaith yn unig yw iaith, wrth gwrs. Daw diwylliant yn ei sgîl, o sesiynau gwerin at farddoniaeth, o ddawnsio at ganu, o deisennau cri a bara lawr at eisteddfodau. Ein diwylliant ni, ein halawon ni, a’n canu ni. Nid o achos ein bod yn well nag unrhyw wlad neu genedl arall, ond oherwydd ein bod yn wahanol ac mae angen holl liwiau’r enfys ar y byd i bawb gael ei werthfawrogi. Nid byd du a gwyn, ond byd amryliw a Chymru a’r Gymraeg yno yn gyfartal â gwledydd a chenhedloedd y byd.
Dim ond drwy arddel a mwynhau ein hiaith y daw ei thwf. Ni all pwyllgora ennill iaith i lawer, a ni all strategaethau gweinyddol o lywodraethau canolog sicrhau ei dyfodol ychwaith. Daw yfory ein hiaith drwy ei siarad, drwy chwarae ynddi, canu ynddi, caru ynddi, ennill a cholli ynddi. Ac felly gwerthfawrogwn waith y rhai fu’n flaengar ar hyd y blynyddoedd yn hyrwyddo diwylliant cyfoes; y rhai a fu’n ymladd dros yr hawliau a gymerwn ni yn ganiataol erbyn hyn; a’r rhai hynny sy’n gweithio yn y dirgel, yn aml yn ddiddiolch yn ein cymunedau yn sicrhau fod y Gymraeg ar gael i bawb drwy bapurau bro, gigs, clybiau chwaraeon a thimau cenedlaethol!
Ceir elfen o chwithdod ymysg pobl Cymru weithiau am ein hunaniaeth a’n traddodiadau. Rhyw embaras nad ydyw ein hiaith yn cŵl fel iaith yr Amerig, nad yw ein dawnsio a’n clocsio am ei gwneud hi ar TikTok, ac nad yw ein diwylliannau traddodiadol yn haeddu eu lle tu hwnt i faes Eisteddfod. Profais hyn oll, fe’i gwelaf yn feunyddiol mewn dinas sydd yn gartref imi, lle y dywed rhai ar goedd nad oes angen siarad Cymraeg ragor gan nad yw’r athro wrth law, gan fychanu ein hiaith a’r rhai sydd am ei harddel. Bum yng Ngŵyl Werin y Fleadh yn Iwerddon, ac yno gwelais yr hyder oedd gan bobl o bob oedran yn eu diwylliannau a’r pethau unigryw a gwahanol sydd gan y Gwyddelod. Yr hwyl a’r chwerthin yn eu grymuso heb unrhyw fwriad ond mwynhau.
Ym mwynhad Cymraeg a Chymreig i’r Cymry mae dyfodol ein hiaith.
Nid breuddwyd yw Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg. Cynhyrfwn y dyfroedd! Mynnwn hi!