Bwriedir i Uwchgynhadledd Annibyniaeth Fawr fod yn ofod sy’n caniatáu trafodaeth agored trwy drin eraill â pharch, yn gynhwysol ac yn deg.
Mae Melin Drafod eisiau hybu awyrgylch positif drwy ofyn i bawb:
- Trin pawb yn gyfartal ac yn barchus
- Gwrando ar farn pobl eraill ac ymwneud adeiladol â nhw
- Dangos esiampl
- Bod yn ymroddedig i helpu ei gilydd ac i fod yn garedig
- Parchu yr amgylchedd a’r bobl o’ch cwmpas
Credwn fod gan bawb yr hawl i fod mewn amgylchedd parchus, diogel a chroesawgar yn yr Uwchgynhadledd.
Rydym yn ymroddedig i ddarparu profiad cynadledda cynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hil, ethnigrwydd, tarddiad cenedlaethol, dinasyddiaeth, neu iaith, rhywedd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, maint y corff, oedran, crefydd neu ddosbarth economaidd.
Nid oes lle i wahaniaethu, aflonyddu, bwlio ac ymddygiadau nawddoglyd yn yr Uwchgynhadledd, nac mewn unrhyw gyd-destun arall, ac ni fyddant yn cael eu goddef.
Rydym yn mynnu bod mynychwyr yr Uwchgynhadledd yn ymarfer:
- Dim trais
- Dim aflonyddu
- Dim gwahaniaethu
- Dim bwlio
- Dim ymddygiad anweddus
Mae’r rhain i gyd yn berthnasol ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac i fannau ffurfiol ac anffurfiol yn yr Uwchgynhadledd ac o’i chwmpas, ac i ffurfiau electronig o gyfathrebu yn ogystal ag ymwneug personol (corfforol, geiriol a di-eiriau).