Uwchgynhadledd Fawr Democratiaeth
10yb, dydd Sadwrn, 8fed Chwefror
O gamwybodaeth gynyddol ar-lein i lygredd gwleidyddol a thwf yr adain dde eithafol, mae gwleidyddiaeth gynrychiadol yn wynebu heriau digynsail yn ein cenedl ni ynghyd â sawl un arall o amgylch y byd. Dewch i ddiwrnod o drin a thrafod mewn sgyrsiau grwpiau bach a mawr i lunio atebion i’r heriau ac i ail-ddychmygu democratiaeth ar gyfer y Gymru annibynnol i ddod.
Ymysg y siaradwyr bydd yr awdures Grace Blakeley, Heledd Fychan AS o Blaid Cymru, Arweinydd Plaid Werdd Cymru Anthony Slaughter, cyn-AS Cwm Cynon Beth Winter, y gohebydd ac awdur Will Hayward, AS Plaid Cymru Adam Price, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Joseff Gnagbo a’r Aelod Senedd Llafur Mick Antoniw.
Gallwch chi weld yr amserlen ddrafft y dydd yma.
Tocyn Aelodau a’r Digyflog: £6
(Bydd tocynnau £1 yr un yn ddrytach ar ddiwrnod y digwyddiad)
(Rhagor o) Ddychmygu Cymru Annibynol
Ein llyfr newydd gydag erthyglau gan Joseph Gnagbo, Sioned Williams, Naomi Hughes, Julie Brominicks, Norena Shopland, Jon Gower, Lis Mclean, Emyr Lewis, Carys Eleri, Adam Price, Beca Brown, John Barnie, Eric Ngalle Charles a mwy.
Pris £5.99 (+ £2 postio).
Gwireddu’r Gymru Annibynnol – Papur Trafod Cyllid
Pris £3 (+ £2 postio), ond am ddim gydag aelodaeth Melin Drafod.
Bathodyn bach ‘Cymru Annibynnol Flaengar’.
1 am £1 (+ £1 postio), ond am ddim gydag aelodaeth Melin Drafod.
2 am £1.80 (+ £1 postio)
3 am £2.40 (+ £1 postio)