Fforddio Annibyniaeth i Gymru

Mae’r cwestiwn o fforddio Annibyniaeth wedi cael adfywiad, diolch i ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol gan y Blaid Lafur yn ystod isetholiad Caerffili. Ymgyrch, gyda chefnogaeth ystadegau arwynebol gan Swyddfa Cymru, oedd yn honni bod Annibyniaeth i Gymru yn costio tua £7,000 i bob person, (gyda rhai amrywiadau) gyda’r bwriad amlwg o ddychryn pleidleiswyr. Yn naturiol, roeddem yn trafod tipyn ar hyn yn ystod rali Annibyniaeth Cymru yn y Rhyl ar 18 Hydref.

Mae’r ddadl ynglŷn a fforddio annibyniaeth wedi bod yn gur pen i gefnogwyr annibyniaeth ers blynyddoedd, ac o ddefnyddio ymadrodd cyfoes poblogaidd, mae’n bwnc sy’n byw yn “rent free” yn ein pennau, ac am reswm dilys gan mai dyma mae llawer o bobl yn ei ofyn os dywedwch wrthynt eich bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Tra bod cefnogwyr annibyniaeth yn hapus gyda’r ddealltwriaeth bod pob gwlad arall yn gallu fforddio bod yn annibynnol, felly rhaid bod hynny’n wir am Gymru hefyd, nid yw hyn yn darbwyllo pobl llai sicr eu cefnogaeth, am mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf ohonom wedi methu rhoi’n bys ar yr ateb sy’n rhoi hyder i amheuwyr.

Oherwydd hyn fe ymgymerodd llawer o bobl gyda’r pwnc yma gan gynnwys Melin Drafod yn 2023 : Gwireddu’r Gymru Anibynnol, gwaith oedd yn adeiladu ar astudiaeth o fwlch cyllidol Cymru gan John Doyle “The Fiscal Deficit in Wales” (2022), a hynny’n dilyn llawer o waith yn y maes gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Er cymaint y symudodd y drafodaeth yma yn ei blaen yn y cyfnod yma, gwyddom nawr iddo symud ymhellach yn ei blaen yn hwyrach yn 2023 gyda chyhoeddiad papur gan Thibault Laurentjoye “Currency options for an Independent Wales”. Yn fy marn i mae papur Laurentjoye yn rhoi eglurhad clir o’r sefyllfa gyllidol Cymru anibynnol, ac yn ychwanegi cadernid i’r drafodaeth, ac mae’n ymddangos nad yw’r pwyntiau mae wedi eu gwneud wedi cael sylw digonol yn y mudiad annibyniaeth, efallai oherwydd amseriad cyhoeddi ei bapur.

Tra’n cyflwyno dadl gref dros i Gymru fabwysiadu ei harian ei hun, mae Laurentjoye hefyd yn fframio’r drafodaeth am y bwlch cyllidol mewn ffordd wahanol, gan egluro bod gan Gymru ddyled ddeuol, neu “twin deficits”, sef diffyg cyllidol a diffyg masnachol, y ddwy yn debyg o ran maint, ac hefyd yn ansicr yn ystadegol, hyd at efallai £13 Biliwn, neu dipyn yn llai os derbyniwn ddadleuon Doyle. Hefyd, mae ffigyrau mwy diweddar yn awgrymu bod sefyllfa fasnachol Cymru wedi cryfhau rhywfaint. Does dim sicrwydd wrth gwrs, mae pawb yn y maes yn pwysleisio gwendid y wybodaeth ystadegol sydd ar gael am economi Cymru.

Mae deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy fantolen yn allweddol, ac un ffordd hwylus o’i egluro ydy trwy ystyried gwledydd ble mae’r darlun yn fwy cymysg, e.e. mae gan lawer o wledydd yn Ewrop, gan gynnwys yr Almaen a’r Eidal, gyfrifon positif mewn masnach gan eu bod yn allforio mwy na mae’n nhw’n mewnforio, ond cyfrifon negyddol, neu ddiffygion cyllidol gyda’u Llywodraethau. Enghraifft arall ydy Japan, sydd a diffyg cyllidol enfawr ond diffyg masnachol bychan heddiw, yn dilyn hanes cryf o allforio. Y gwahaniaeth ydy bod unrhyw ddyled yn y fantolen fasnachol yn ddyled i wledydd eraill, tra bod y “bwlch cyllidol” yn ddyled sydd ar y wlad iddi hi ei hun. Mae gan Brydain ddyledion ar y ddwy fantolen ac mae obsesiwn am yr un cyllidol fewnol yn tynnu sylw oddi ar yr un fasnachol.

Mae hyn yn allweddol o ystyried sut mae Cymru yn delio gyda’i sefyllfa pan mae’n ennill annibyniaeth. Mae Laurentjoye yn argymell bod Cymru yn sefydlu comisiynnau ar wahân i ddelio gyda’r mantoleni yma, un ar gyfer masnach ac un arall ar gyfer cyllid y wlad.

Oherwydd hyn, gallwn edrych ar y dewisiadau sydd gan Gymru anibynnol mewn goleuni gwahanol. Er enghraifft ar yr ochr fasnachol gallwn ystyried un datrysiad posibl, ble byddai Cymru annibynnol yn adeiladu morglawdd sylweddol i gynhyrchu trydan o’r llanw. Ni fyddai hyn o reidrwydd yn cau bwlch cyllid y Llywodraeth gan na allai’r Llywodraeth elwa llawer ohono, ni allai godi pris neu dreth uchel o’r cyflenwad yma ar wledydd eraill mewn marchnad gystadleuol, ond gallai gau’r bwlch masnachol yn sylweddol os byddai’n golygu bod pobl Cymru yn gweithio mwy ar gynnyrch y gellir ei allforio nag ynghynt. Dim ond awgrym yw hyn, ond mae’n darlunio’r glir beth allai ddigwydd pe bai mwy o fuddsoddiad yn cael ei gynllunio ar gyfer Cymru. Ein sefyllfa ar hyn o bryd yw nad oes digon o fuddsoddiad yng Nghymru, ac rydyn ni’n dioddef yn economaidd oherwydd hynny.

Pe baem am daclo’r bwlch cyllidol, gallem ystyried yr effaith anuniongyrchol o ail leoli ffwythiannau fel llywodraethu, y gwasanaeth sifil, gwasanaethau cyfreithiol ac amddiffyn er enghraifft i sicrhau eu bod yn digwydd y tu mewn i ffiniau Cymru. Byddai hynny’n sicrhau bod y staff perthnasol nid yn unig yn fwy ymwybodol o anghenion Cymru wrth wneud eu gwaith, ond hefyd yn talu trethi yng Nghymru ac o ganlyniad yn lleihau’r bwlch cyllidol. Mae hyn yn amlwg yn fwy effeithiol yn gyllidol na thalu gwlad arall i’n llywodraethu. Gallai polisi o’r fath gael ei weithredu yn fuan gan newid darlun y bwlch cyllidol yn sydyn.

Yr hyn sy’n amlwg felly ydy bod y cyfrifoldeb am unrhyw fwlch masnachol neu gyllidol yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru annibynnol, nid gyda’r dinasyddion. Mae’r ffigwr rydym wedi ei dderbyn am “gost” annibyniaeth yn anghywir ac hefyd yn amherthnasol. Bydd Cymru annibynnol yn fwy cymhleth, gyda mwy o gyfrifoldebau, a’r hyn bydd angen i ddinasyddion Cymru ei wneud, fel dinasyddion unrhyw wlad arall ddemocrataidd, ydy sicrhau eu bod yn ethol Llywodraeth sydd a chynlluniau priodol i sicrhau dyfodol ein gwlad. Bydd angen i lywodraeth Cymru annibynnol gael cynlluniau sy’n cynnwys buddsoddiad priodol yn ein gwlad ein hunain a hefyd gymryd cyfrifoldeb dros ble mae arian yn cael ei wario.

Mae hyn yn naid meddyliol anghyfarwydd i ni, nid yn unig oherwydd bod Llywodraeth Prydain yn cadw’r cyfrifoldebau yma oddi wrthym, ond hefyd oherwydd y cyd destun gwleidyddol economaidd rydyn ni ynddo ar hyn o bryd. Mae’n Llywodraeth Lafur bresennol mor ofnus o fwlch cyllidol Prydain fel ei bod yn anfodlon i weithredu i wneud unrhyw newid ymarferol i’n gwasanaethau, felly ni ddylem synnu at ei hamharodrwydd i ymgymryd a newidiadau mwy radical yng Nghymru.  Serch hynny, mae wrth gwrs yn bosib gwneud newidiadau sy’n goresgyn y fath broblemau, dim ond ewyllys wleidyddol sydd ei angen.  Mae’n edrych erbyn hyn fel bod pleidleiswyr, gyda chryn gyfiawnhad, yn chwilio am newidiadau mwy sylfaenol i’n cymdeithas a’n economi nag sy’n cael ei gynnig iddynt gan wleidyddiaeth Prydeinig traddodiadol, ac efallai hefyd eu bod yn llai ofnus na llawer o’r gwleidyddion.

 

Ymunwch a ni i fod yn rhan o’r drafodaeth

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora