Fforddio Annibyniaeth i Gymru

Mae’r cwestiwn o fforddio Annibyniaeth wedi cael adfywiad, diolch i ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol gan y Blaid Lafur yn ystod isetholiad Caerffili. Ymgyrch, gyda chefnogaeth ystadegau arwynebol gan Swyddfa Cymru, oedd yn honni bod Annibyniaeth i Gymru yn costio tua £7,000 i bob person, (gyda rhai amrywiadau) gyda’r bwriad amlwg o ddychryn pleidleiswyr. Yn naturiol, roeddem yn trafod tipyn ar hyn yn ystod rali Annibyniaeth Cymru yn y Rhyl ar 18 Hydref.

Mae’r ddadl ynglŷn a fforddio annibyniaeth wedi bod yn gur pen i gefnogwyr annibyniaeth ers blynyddoedd, ac o ddefnyddio ymadrodd cyfoes poblogaidd, mae’n bwnc sy’n byw yn “rent free” yn ein pennau, ac am reswm dilys gan mai dyma mae llawer o bobl yn ei ofyn os dywedwch wrthynt eich bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Tra bod cefnogwyr annibyniaeth yn hapus gyda’r ddealltwriaeth bod pob gwlad arall yn gallu fforddio bod yn annibynnol, felly rhaid bod hynny’n wir am Gymru hefyd, nid yw hyn yn darbwyllo pobl llai sicr eu cefnogaeth, am mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf ohonom wedi methu rhoi’n bys ar yr ateb sy’n rhoi hyder i amheuwyr.

Oherwydd hyn fe ymgymerodd llawer o bobl gyda’r pwnc yma gan gynnwys Melin Drafod yn 2023 : Gwireddu’r Gymru Anibynnol, gwaith oedd yn adeiladu ar astudiaeth o fwlch cyllidol Cymru gan John Doyle “The Fiscal Deficit in Wales” (2022), a hynny’n dilyn llawer o waith yn y maes gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Er cymaint y symudodd y drafodaeth yma yn ei blaen yn y cyfnod yma, gwyddom nawr iddo symud ymhellach yn ei blaen yn hwyrach yn 2023 gyda chyhoeddiad papur gan Thibault Laurentjoye “Currency options for an Independent Wales”. Yn fy marn i mae papur Laurentjoye yn rhoi eglurhad clir o’r sefyllfa gyllidol Cymru anibynnol, ac yn ychwanegi cadernid i’r drafodaeth, ac mae’n ymddangos nad yw’r pwyntiau mae wedi eu gwneud wedi cael sylw digonol yn y mudiad annibyniaeth, efallai oherwydd amseriad cyhoeddi ei bapur.

Tra’n cyflwyno dadl gref dros i Gymru fabwysiadu ei harian ei hun, mae Laurentjoye hefyd yn fframio’r drafodaeth am y bwlch cyllidol mewn ffordd wahanol, gan egluro bod gan Gymru ddyled ddeuol, neu “twin deficits”, sef diffyg cyllidol a diffyg masnachol, y ddwy yn debyg o ran maint, ac hefyd yn ansicr yn ystadegol, hyd at efallai £13 Biliwn, neu dipyn yn llai os derbyniwn ddadleuon Doyle. Hefyd, mae ffigyrau mwy diweddar yn awgrymu bod sefyllfa fasnachol Cymru wedi cryfhau rhywfaint. Does dim sicrwydd wrth gwrs, mae pawb yn y maes yn pwysleisio gwendid y wybodaeth ystadegol sydd ar gael am economi Cymru.

Mae deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy fantolen yn allweddol, ac un ffordd hwylus o’i egluro ydy trwy ystyried gwledydd ble mae’r darlun yn fwy cymysg, e.e. mae gan lawer o wledydd yn Ewrop, gan gynnwys yr Almaen a’r Eidal, gyfrifon positif mewn masnach gan eu bod yn allforio mwy na mae’n nhw’n mewnforio, ond cyfrifon negyddol, neu ddiffygion cyllidol gyda’u Llywodraethau. Enghraifft arall ydy Japan, sydd a diffyg cyllidol enfawr ond diffyg masnachol bychan heddiw, yn dilyn hanes cryf o allforio. Y gwahaniaeth ydy bod unrhyw ddyled yn y fantolen fasnachol yn ddyled i wledydd eraill, tra bod y “bwlch cyllidol” yn ddyled sydd ar y wlad iddi hi ei hun. Mae gan Brydain ddyledion ar y ddwy fantolen ac mae obsesiwn am yr un cyllidol fewnol yn tynnu sylw oddi ar yr un fasnachol.

Mae hyn yn allweddol o ystyried sut mae Cymru yn delio gyda’i sefyllfa pan mae’n ennill annibyniaeth. Mae Laurentjoye yn argymell bod Cymru yn sefydlu comisiynnau ar wahân i ddelio gyda’r mantoleni yma, un ar gyfer masnach ac un arall ar gyfer cyllid y wlad.

Oherwydd hyn, gallwn edrych ar y dewisiadau sydd gan Gymru anibynnol mewn goleuni gwahanol. Er enghraifft ar yr ochr fasnachol gallwn ystyried un datrysiad posibl, ble byddai Cymru annibynnol yn adeiladu morglawdd sylweddol i gynhyrchu trydan o’r llanw. Ni fyddai hyn o reidrwydd yn cau bwlch cyllid y Llywodraeth gan na allai’r Llywodraeth elwa llawer ohono, ni allai godi pris neu dreth uchel o’r cyflenwad yma ar wledydd eraill mewn marchnad gystadleuol, ond gallai gau’r bwlch masnachol yn sylweddol os byddai’n golygu bod pobl Cymru yn gweithio mwy ar gynnyrch y gellir ei allforio nag ynghynt. Dim ond awgrym yw hyn, ond mae’n darlunio’r glir beth allai ddigwydd pe bai mwy o fuddsoddiad yn cael ei gynllunio ar gyfer Cymru. Ein sefyllfa ar hyn o bryd yw nad oes digon o fuddsoddiad yng Nghymru, ac rydyn ni’n dioddef yn economaidd oherwydd hynny.

Pe baem am daclo’r bwlch cyllidol, gallem ystyried yr effaith anuniongyrchol o ail leoli ffwythiannau fel llywodraethu, y gwasanaeth sifil, gwasanaethau cyfreithiol ac amddiffyn er enghraifft i sicrhau eu bod yn digwydd y tu mewn i ffiniau Cymru. Byddai hynny’n sicrhau bod y staff perthnasol nid yn unig yn fwy ymwybodol o anghenion Cymru wrth wneud eu gwaith, ond hefyd yn talu trethi yng Nghymru ac o ganlyniad yn lleihau’r bwlch cyllidol. Mae hyn yn amlwg yn fwy effeithiol yn gyllidol na thalu gwlad arall i’n llywodraethu. Gallai polisi o’r fath gael ei weithredu yn fuan gan newid darlun y bwlch cyllidol yn sydyn.

Yr hyn sy’n amlwg felly ydy bod y cyfrifoldeb am unrhyw fwlch masnachol neu gyllidol yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru annibynnol, nid gyda’r dinasyddion. Mae’r ffigwr rydym wedi ei dderbyn am “gost” annibyniaeth yn anghywir ac hefyd yn amherthnasol. Bydd Cymru annibynnol yn fwy cymhleth, gyda mwy o gyfrifoldebau, a’r hyn bydd angen i ddinasyddion Cymru ei wneud, fel dinasyddion unrhyw wlad arall ddemocrataidd, ydy sicrhau eu bod yn ethol Llywodraeth sydd a chynlluniau priodol i sicrhau dyfodol ein gwlad. Bydd angen i lywodraeth Cymru annibynnol gael cynlluniau sy’n cynnwys buddsoddiad priodol yn ein gwlad ein hunain a hefyd gymryd cyfrifoldeb dros ble mae arian yn cael ei wario.

Mae hyn yn naid meddyliol anghyfarwydd i ni, nid yn unig oherwydd bod Llywodraeth Prydain yn cadw’r cyfrifoldebau yma oddi wrthym, ond hefyd oherwydd y cyd destun gwleidyddol economaidd rydyn ni ynddo ar hyn o bryd. Mae’n Llywodraeth Lafur bresennol mor ofnus o fwlch cyllidol Prydain fel ei bod yn anfodlon i weithredu i wneud unrhyw newid ymarferol i’n gwasanaethau, felly ni ddylem synnu at ei hamharodrwydd i ymgymryd a newidiadau mwy radical yng Nghymru.  Serch hynny, mae wrth gwrs yn bosib gwneud newidiadau sy’n goresgyn y fath broblemau, dim ond ewyllys wleidyddol sydd ei angen.  Mae’n edrych erbyn hyn fel bod pleidleiswyr, gyda chryn gyfiawnhad, yn chwilio am newidiadau mwy sylfaenol i’n cymdeithas a’n economi nag sy’n cael ei gynnig iddynt gan wleidyddiaeth Prydeinig traddodiadol, ac efallai hefyd eu bod yn llai ofnus na llawer o’r gwleidyddion.

 

Ymunwch a ni i fod yn rhan o’r drafodaeth

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Cefnogi Annibyniaeth i Gymru

Wrth barhau ar hyd y llwybr tuag at annibyniaeth i Gymru, gyda’r byd gwleidyddol Cymreig nawr yn troi tuag at etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026, mae’r angen i ddatblygu syniadau blaengar sy’n dangos gwerth annibyniaeth yn fwy nag erioed.

Mae Melin Drafod wedi trefnu nifer o gyfarfodydd dros y flwyddyn ddiwethaf, ond yn y cyfnod nesaf byddwn yn cyhoeddi cyfres o flogiau fydd yn canolbwyntio ar themâu perthnasol, gan ddatblygu trafodaeth sy’n osgoi cyfyngiadau gwleidyddiaeth pleidiol.

Croeso i chi gysylltu â ni os ydych am gyfrannu i’r drafodaeth, a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli dim trwy gofrestru i’n rhestr ebost.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Uwchgynhadledd Democratiaeth

 

Uwchgynhadledd Fawr Democratiaeth

10yb, dydd Sadwrn, 8fed Chwefror

Soar, Merthyr Tudful

O gamwybodaeth gynyddol ar-lein i lygredd gwleidyddol a thwf yr adain dde eithafol, mae gwleidyddiaeth gynrychiadol yn wynebu heriau digynsail yn ein cenedl ni ynghyd â sawl un arall o amgylch y byd. Dewch i ddiwrnod o drin a thrafod mewn sgyrsiau grwpiau bach a mawr i lunio atebion i’r heriau ac i ail-ddychmygu democratiaeth ar gyfer y Gymru annibynnol i ddod.

Ymysg y siaradwyr bydd yr awdures Grace Blakeley, Heledd Fychan AS o Blaid Cymru, Arweinydd Plaid Werdd Cymru Anthony Slaughter, cyn-AS Cwm Cynon Beth Winter, y gohebydd ac awdur Will Hayward, AS Plaid Cymru Adam Price, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Joseff Gnagbo, Naomi Hughes o YesCymru, a’r Aelod Senedd Llafur Mick Antoniw.

Gallwch chi weld amserlen y dydd yma.

Archeba dy docyn yma heddiw

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Uwchgynhadledd ym Merthyr i drafod pryderon am ddemocratiaeth

Bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull ym Merthyr Tudful fis nesaf i drafod yr heriau cynyddol sy’n wynebu democratiaeth o amgylch y byd.
Trefnir yr uwchgynhadledd gan y grŵp polisi Melin Drafod, er mwyn trin a thrafod pynciau megis y cynnydd mewn camwybodaeth a thwf yr adain dde eithafol.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad a gynhelir yn Theatr Soar ym Merthyr Tudful fydd yr awdures Grace Blakeley, Aelod Senedd Llafur Mick Antoniw, yr awdur a gohebydd Will Hayward, Aelod Senedd Plaid Cymru Heledd Fychan a chyn-AS Cwm Cynon, Beth Winter.
Meddai Talat Chaudhri, Cadeirydd y grŵp polisi Melin Drafod:
“O gamwybodaeth gynyddol ar-lein i lygredd gwleidyddol a thwf yr adain dde eithafol, mae gwleidyddiaeth gynrychiadol yn wynebu heriau digynsail yn ein cenedl ni ynghyd â sawl cenedl arall o amgylch y byd.  Bydd yr uwchgynhadledd yn gyfle i drafod ac i lunio atebion i’r heriau hynny ac i ail-ddychmygu democratiaeth ar gyfer y Gymru annibynnol i ddod.
“Mewn nifer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt, nid oes amheuaeth bod democratiaeth fel yr ydym yn ei hadnabod hi dan fygythiad yn fwy nag ers cenedlaethau. Mae pob cam, boed yn fach neu’n fawr, yn gallu gwneud gwahanaeth. Mae angen i’n pleidiau gwleidyddol a’n cymdeithas sifil fod yn barod i wynebu’r bygythiad enfawr hwn.
“Dyma’r amser i ddyfnhau a chryfhau strwythurau democrataidd ein gwlad, rhai mewnol y pleidiau ynghyd â’n cyfundrefnau etholiadol. Ond, yn ogystal, mae’n gwbl hanfodol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd incwm difrifol yng Nghymru ac mewn llefydd eraill yn y byd.”
Cynhelir yr uwchgynhadledd ar ddemocratiaeth ddydd Sadwrn 8 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Soar ym Merthyr Tudful. Cewch ragor o fanylion a chyfarwyddiadau i archebu tocynnau drwy fynd i http://melindrafod.cymru/siop .
Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Uwchgynhadledd Fawr Democratiaeth

Uwchgynhadledd Fawr Democratiaeth

O gamwybodaeth gynyddol ar-lein i lygredd gwleidyddol a thwf yr adain dde eithafol, mae gwleidyddiaeth gynrychiadol yn wynebu heriau digynsail yn ein cenedl ni ynghyd â sawl un arall o amgylch y byd.  Dewch i ddiwrnod o drin a thrafod mewn sgyrsiau grwpiau bach a mawr i lunio atebion i’r heriau ac i ail-ddychmygu democratiaeth ar gyfer y Gymru annibynnol i ddod.

8.2.25

Canolfan Soar, Merthyr Tudful

Siaradwyr: Grace Blakeley, Mick Antoniw AS, Will Hayward, Heledd Fychan AS, Beth Winter ac eraill

Archebwch docyn yma.

 

 

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Galw am gynllun arweinwyr i atal yr adain dde eithafol

Mae ymgyrchwyr wedi ysgrifennu at arweinwyr pleidiau yng Nghymru gan alw arnynt ffurfio cynllun i atal twf yr adain dde eithafol.

Yn yr ohebiaeth oddi wrth grŵp polisi Melin Drafod, gofynnir cyfres o gwestiynau am gynlluniau’r gwleidyddion i gryfhau democratiaeth a thaclo anghyfiawnder economaidd a chymdeithasol.

Rhwng 2016 a 2021, bu cynrychiolwyr nifer o bleidiau adain dde eithafol yn y Senedd, gan gynnwys UKIP a Phlaid Brexit.

Mae gwleiddydion a phleidiau adain dde eithafol wedi ennill etholiadau yn yr Eidal, Awstria, UDA, yr Iseldiroedd a nifer o wledydd eraill yn ddiweddar.

Mae arolygon barn yn awgrymu gallai Reform ennill seddi yn etholiadau Cymru yn 2026.

Meddai Talat Chaudhri, Cadeirydd grŵp polisi Melin Drafod:

“Mewn nifer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt, nid oes amheuaeth bod democratiaeth fel yr ydym yn ei hadnabod hi dan fygythiad yn fwy nag ers cenedlaethau. Mae angen i’n pleidiau gwleidyddol a’n cymdeithas sifil sefyll i fyny i wynebu’r bygythiad enfawr hwn.

“Bydd rhai yn ystyried yr hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru yn amherthnasol – ond dydyn ni ddim yn cytuno. Mae pob cam, boed yn fach neu’n fawr, yn gallu gwneud gwahanaeth. Mae pob dim yn werth ei wneud o ystyried difrifoldeb y sefyllfa. Felly mae dyletswydd foesol ar ein cynrychiolwyr a’n pleidiau i ymateb.

“Dyma’r amser i ddyfnhau a chryfhau strwythurau democrataidd ein gwlad, rhai mewnol y pleidiau ynghyd â’n cyfundrefnau etholiadol. Ond, yn ogystal, mae’n gwbl hanfodol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd incwm difrifol yng Nghymru a mewn llefydd eraill yn y byd. Dim ond drwy weithio ar bob lefel y llwyddwn ni daclo’r pleidiau adain dde eithafol a’u hideoleg hyll sy’n bygwth cynifer o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Yn y Gymru annibynnol, bydd cyfle gennym ni greu amgylchfyd llawer iawn mwy agored a chroesawgar i fudwyr. Mae herio’r naratif gwrth-fewnfudo atgas bresennol nid yn unig y polisi moesol cywir, ond y peth gorau i’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.”

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Lleisiau 2026

Trafodaeth am yr agenda ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru wedi etholiadau’r Senedd yn 2026, a sut y dylai adeiladu tuag at annibyniaeth a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2024 gyda Joseff Gnagbo, Cyng. Beca Roberts, Radha Nair-Roberts, Cyng. Elin Hywel, Keira Marshall a Leanne Wood

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Pwyllgor Cenedlaethol Newydd

Ar y 5ed o fis Medi 2024, fe etholwyd ein Pwyllor Cenedlaethol newydd ar gyfer y cyfnod i ddod. Yr aelodau yw:

Delyth Ifan, Einion Gruffudd, Colin Nosworthy, Osian Elias, Talat Chaudhri, Mererid Boswell, Steve Blundell, Jonathan Evershed, Joseff Gnagbo, Michael Chown

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori

Dafydd Wigley a Natalie Jones

Trafodaeth rhwng cyn-Arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley a Natalie Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Heb gategori
rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora