Gŵyl Economeg yr Alban – Ydy Economeg yn rhy bwysig i’w adael i Economegwyr?

Tra’n bod ni yng Nghymru yn pendroni am alluoedd cyfyngedig ein Llywodraeth datganoledig, ac efallai yn cadw llygad ar ddiffygion cyllidol Cymru annibynnol, mae trafodaeth ar lefel llawer uwch yn digwydd yn yr Alban. Mae rhan sylweddol o’r drafodaeth yn cael ei arwain gan Scotonomics, gwefan a phodcast sy’n cael ei arwain gan William Thomson, ac sy’n canolbwyntio ar opsiynau amgen ar gyfer Alban annibynnol. Fe ymwelodd a Chymru ddiwedd Awst y llynedd, gan drefnu digwyddiad yn y Tramshed, Caerdydd, oedd yn cynnwys trafodaeth o MMT yng nghwmni Warren Mosler.

Uchafbwynt diweddaraf trafodaeth Scotonomics oedd Gŵyl Economeg yr Alban a gynhaliwyd yn Leith ger Caeredin y penwythnos diwethaf, gŵyl agored ar gyfer pawb oedd a diddordeb, ac oedd yn ffodus yn caniatáu mynychwyr o bell. Roedd yr ŵyl yn dangos yn glir cymaint ehangach y gall y drafodaeth fod na’r hyn rydyn ni wedi ei arfer ag ef yng Nghymru, ac roeddem yn cael ystyried y goblygiadau pellgyrhaeddol sy’n codi o’r ffaith nad ydy’n gwleidyddion wedi ystyried y darlun ehangach wrth wneud penderfyniadau strategol.

I roi syniad o ehangder y drafodaeth, dechreuwyd gyda throsolwg o’r gwahanol draddodiadau economeg, sy’n cynnwys y neoryddfrydiaeth rydyn ni wedi arfer ag ef, a hefyd yr ysgol Awstriaidd, Ôl-Keynesiaeth, “Institutionalism”, Economeg Amgylcheddol, Ffeminyddol, a Marxaidd, ac mae’r rhain i gyd yn rhoi goleuni newydd ar ein problemau ac atebion posibl. Roedd y drafodaeth yn fywiog gydag amrywiaeth o fynychwyr yn cael cyfle i gyfrannu.

Yn bersonol fe gefais fy synnu gan bŵer y dehongliad ffeminyddol o’r economi, cyfraniad gan Emma Holten oedd yn ffocysu ar mor ddibynnol mae economi gyfalafol ar gyfraniad di-dal gwragedd a theuluoedd i gynnal cyfranogwyr sy’n ennill y cyflogau, a hefyd y gwerth a geir o’r gofal a roddir i bobl sydd ag anghenion iechyd er enghraifft, buddsoddiad sydd ddim yn cael ei werthuso. Fe archebais gopi o “Deficit” ganddi er mwyn dysgu mwy am hyn.

Yn y pen draw mae’r drafodaeth bob amser yn dychwelyd at ein dehongliad o beth sydd yn werthfawr, a pham ein bod yn derbyn y pris diweddaraf, sy’n rif pendant ond ansefydlog ac anghytbwys, sydd i fod i gynrychioli gwerth. Ydy arian a phobl ar yr un ochr? Pan mae gennym fethiannau gwasanaethau sylfaenol, ac argyfwng amgylcheddol, mae’n rhaid dychwelyd ar y pynciau yma a herio’r cyngor rydyn ni yn ei dderbyn mewn ffordd ddeallus. Ydy’r gost rydyn ni’n ei gysylltu gyda goresgyn tlodi yn adlewyrchiad cywir? Ydyn ni wedi rhoi cost priodol ar yr anghydraddoldeb sydd yn ein cymdeithas? Ydyn ni’n rhoi digon o werth a chefnogaeth i’n democratiaeth?

Mae Cymru angen codi lefel y drafodaeth economaidd, mae angen i ni allu darganfod atebion ein hunain ar gyfer cwestiynau ymarferol ein byd. Roedd yr ŵyl yma’n dangos sut mae’r Alban yn datblygu’r drafodaeth i raddau pellach na Chymru ar hyn o bryd, mae gennym lawer i’w ddysgu ganddynt.

Einion Gruffudd

rss facebook twitter github gitlab youtube mail spotify lastfm instagram linkedin google google-plus pinterest medium vimeo stackoverflow reddit quora quora