Gallai Cymru annibynnol fforddio buddsoddi £3 biliwn ychwanegol y flwyddyn mewn gwasanaethau cyhoeddus, megis gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb, yn ôl adroddiad newydd Melin Drafod.
Fe ddaw’r papur trafod i’r casgliad bod “dadl gredadwy y byddai Cymru’n wynebu diffyg … fyddai’n [ei] gwneud yr un mor alluog â’r rhan helaeth o wledydd Ewrop i fod yn annibynnol.”
Dadleua ymchwil Melin Drafod y byddai’n ddarbodus i wella sefyllfa gyllidol Cymru o ryw 6-7% o GDP dros gyfnod o flynyddoedd drwy newidiadau polisi gan gynnwys:
- cynyddu lefelau refeniw treth i gyfartaledd Ewrop, drwy ddiwygiadau treth, dad-droseddoli cyffuriau a threth ar landlordiaid;
- newid y berthynas â gwaith a chynyddu canran y boblogaeth sydd o oedran gweithio, gan gynnwys drwy lacio rheolau mewnfudo;
- lleihau gwariant ar amddiffyn i’r un lefel ag Iwerddon;
- cyflawni arbedion drwy greu un gwasanaeth argyfwng integredig, llai o gynghorau sir a lleihau’n sylweddol canran y boblogaeth a garcherir.
Mae’n awgrymu, pe bai negodi gyda gweddill y Deyrnas Gyfunol yn dilyn cynseiliau rhyngwladol a chafodd ei newidiadau polisi eu cyflwyno, y byddai gan Gymru oddeutu £3 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol i fuddsoddi.
Mae’r felin drafod yn cynnig y gallai’r arian fynd i mewn i brosiectau megis gofal plant i bawb yn rhad ac am ddim a dad-garboneiddio’r systemau trafnidiaeth, ynni a thai.
Meddai Talat Chaudhri, Cadeirydd Melin Drafod, y grŵp polisi sy’n craffu ar oblygiadau Cymru yn dod yn genedl annibynnol:
“Gobeithio y bydd papur hwn yn ysgogi trafodaeth polisi fanylach byth am y llwybr tuag at sefydlu Cymru fel gwladwriaeth annibynnol, lwyddiannus a blaengar. Caiff ei dweud yn aml mai sefyllfa gyllidol Cymru yw un o’r rhwystrau mwyaf wrth i fudiadau geisio argyhoeddi’r cyhoedd am yr achos dros annibyniaeth i Gymru. Mae’r papur rydyn ni’n cyhoeddi heddiw yn dangos nid yn unig bod dadl gref y gallai Cymru fforddio annibyniaeth, ond bod cyfle i greu cymdeithas newydd. Cymdeithas newydd fydd yn llawer tecach, gwyrddach a heddychlon na system economaidd ffaeledig a chwbl annheg y Deyrnas Gyfunol.”
Mae papur trafod Melin Drafod yn ffrwyth ymgynghori gydag ystod eang o arbenigwyr.
Dywedodd Tegid Roberts Sylfaenydd Banc Cambria, Cadarn a Chyfarwyddwr Stiwdio Quantum Soup:
“Mae’r papur hwn nid yn unig yn grynodeb ardderchog o’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma ar gyllid Cymru, ond hefyd yn fan cychwyn ar gyfer trafodaeth lawer ehangach am yr hyn y dylai cymdeithas ac economi Cymru fod. Mae gan y drafodaeth ehangach honno’r fantais o wrthod uniongrededd San Steffan a dechrau o’r newydd. Gall ystyried banc canolog i Gymru ac arian cyfred a gall hefyd ddechrau â llechen lân wrth ystyried y system les a’n system dreth hefyd. Ar hyn o bryd dylen ni ystyried pob opsiwn gyda golwg ar greu economi sy’n rhoi anghenion cymdeithas Cymru yn gyntaf, yn hytrach na’r ffordd arall rownd.”
Ychwanegodd Mark Hooper, Sylfaenydd IndyCube a Banc Cambria:
“Mae’r papur hwn, i mi, yn gychwyn sgwrs bwysig. Mae angen dadl ddofn a heriol ar Gymru ynghylch y math o gymdeithas sydd ei hangen arnom, a’r math o wladwriaeth sydd ei hangen felly. Mae’r economi y mae angen inni ei chreu angen ei hadeiladu ar sail yr atebion i’r cwestiynau hynny.
“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous a bywiog i ni, wrth i ni adeiladu Cymru newydd; gadewch i ni osgoi cael ein cyfyngu yn ein ffordd o feddwl gyda’r pethau rydyn ni’n gwybod nad ydyn nhw’n gweithio. Rhaid i’r mudiad annibyniaeth alluogi’r sgyrsiau pwysig a diffiniol hyn nawr.”